Gwirfoddolwyr a Gwirfoddoli

Pobl gyffredin ydym ni, sy'n ddigon ffodus i fyw mewn rhan hardd o Ynys Môn, gyda thraeth godidog ar garreg ein drws a chymuned fywiog.

Gwneud tro da

Gall pobl hŷn, a'r rhai sy'n sâl neu'n anabl, wynebu heriau go iawn. Ond un o'r pethau gorau am ein cymuned yw ei gwydnwch, a pharodrwydd pobl i helpu eu cymdogion.

Mae'r syniad o wneud ‘tro da’ i rywun sydd angen help llaw ar adeg o salwch, profedigaeth neu ofid wrth galon popeth a wnawn, ac mae'n helpu i wneud Benllech yn lle gwych i fyw.

Ein gwirfoddolwyr

Mae ein holl wirfoddolwyr yn malio am bobl eraill. Maent yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a chysurlon sydd, gobeithio, yn lleddfu'r unigrwydd y mae llawer o bobl yn ei deimlo pan fyddant yn byw ar eu pen eu hunain ac mewn perygl o fod yn gaeth i'r tŷ.

  • Mae ein holl wirfoddolwyr wedi cael gwiriad DBS.
  • Maent yn byw yn lleol, felly maent yn helpu pobl yn eu cymuned eu hunain.
  • Mae llawer yn aros gyda ni am flynyddoedd. Maent yn cael llawer o foddhad o wirfoddoli ac o'r cyfeillgarwch y maent yn ei feithrin gyda'r bobl y maent yn eu helpu.

Cafodd y cynllun ei sefydlu gan wirfoddolwyr, ac mae'n dal i gael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr sy'n rhoi oriau lawer o'u hamser i gefnogi eu cymdogion.

Hoffech chi wirfoddoli?

Rydym bob amser yn falch o glywed gan bobl a hoffai helpu, fel gyrrwr neu fel cynorthwyydd gwirfoddol. Ffoniwch ni ar 07902 829094 am sgwrs.

I wirfoddoli fel gyrrwr neu gynorthwyydd gwirfoddol, ffoniwch:

07902 829094